
Credai'r Rhufeiniaid fod 'arwyddion' a oedd 'ex caelo' (o'r awyr) y rhai pwysicaf i'w dilyn gan eu bod yn dod yn uniongyrchol oddi wrth y duwdod Iau (Jupiter).
Yma yn Nelweddu o'r Awyr ExCAELO rydyn ni hefyd yn credu fod ateb creadigol yn aml yn deillio o edrych ar bethau o bersbectif gwahanol - o'r awyr.
Yn wir, mae'r gallu i gymryd golwg manylach ar bethau yn aml yn galluogi penderfyniadau gwell a gwneud cynllunio'r 'cam nesaf' lawer yn haws.

Os ydych wedi dweud 'Swn i'n hoffi cael golwg agosach ar hwnna' ar unrhyw adeg, yna medrwn eich helpu.
Mae amseroedd ble y gall gwneud hynny fod yn anodd, drud ac yn eitha sialens ynddo'i hun.
Trwy ddefnyddio technoleg Drôn mae ExCAELO Cyf yn medru gwneud pethau'n haws, lleihau'r gost a gwneud pethau'n llai o sialens.
Beth bynnag 'rydych chi'n edrych arno, gallwn nid yn unig roi persbectif gwahanol i chi, ond hefyd lun (neu fideo) o beth bynnag yr ydych chi am edrych arno.
Rydyn ni'n medru gweld pethau na all eraill eu gweld a chynnig gwasanaeth delweddu, arolwg, archwilio a mapio, cost effeithiol a di-drafferth.
Trwy ddefnyddio Cerbydau Awyr Di-Griw (Drôn) gallwn gynnig gwasanaeth y tu mewn neu yn yr awyr agored. Gwasanaethau:
Ffotograffiaeth o'r Awyr - Lluniau agos, Panoramig, Uwchben neu Arosgo (Oblique)
Fiedo o'r Awyr
Gwasanaethau Ffotogrametreg, Ortholuniau (orthophotos) a Modelau Drychiad Digidol (Digital Elevation Models (DEM))

RHAGORIAETH
Mae hyblygrwydd a natur amlbwrpas ein cyfarpar yn golygu y gallwn helpu eich busnes gydag ystod eang o dasgau posib.
Gallwn dynnu fideo a lluniau, cynnal arolygon ac archwiliadau yn gyflym ac yn syml, gan helpu eich busnes flaenoriaethu amser ac adnoddau.
Gall ein camerâu clir-lun weld manylion yn hawdd yn ôl eich gofynion penodol.
Mae ein technoleg yn caniatáu hediadau manwl gywir, sy'n medru cael eu hailadrodd fwy nag unwaith dros gyfnod o amser.
Golyga hyn fod gan eich busnes amserlin archwilio gweledol a manwl o brosiectau neu asedau.

ANSAWDD
Ein nod yw helpu eich busnes fanteisio ar fuddion a gwerth llawn llwyfan awyr hynod o amlbwrpas a hyblyg.
Ar ddarparu delweddu awyr, archwilio a phrosesu; sy'n defnyddio technoleg arloesol, o ansawdd uchel ac mwyaf addas ar gyfer eich anghenion.

DIOGELWCH
Mae sicrhau bod eich busnes yn derbyn gwasanaeth sydd o'r safonau diogelwch a chydymffurfiaeth statudol uchaf yn greiddiol i'n busnes.
Mae ein caniatâd ar gyfer Gwaith Masnachol (PfCO) gan Awdurdod Hedfan Sifil, y Deyrnas Unedig, yn ein galluogi i ddefnyddio ein Cerbyd Awyr Di-griw (Drôn) ar gyfer gwaith masnachol, yn ôl deddf gwlad.
Medrwch weld copi o Ganiadad Gwaith Masnachol (PfCO) ExCAELO yma.
Mae pob peilot yn meddu ar drwydded Cerbydau Awyr Di-griw.
Cymhwyster gan gorff hyfforddi ac asesu peilotiaid a gymeradwywyd gan Awdurdod Hedfan Sifil, y Deyrnas Unedig.
CYSWLLT
ExCAELO CYF
Tŷ Britannia ,
Parc Busnes Caerffili,
CF83 3GG
Tel: 02921679148
07736461887
ExCaelo Cyf
Tŷ Britannia
Parc Busnes Caerffili
Caerffili
CF83 3GG
Cwmni Cofrestredig yng Nghymru a Lloegr, Rhif: 10267317
Rhif TAW Cofrestredig: 245149507
