SUT YDW I'N ARCHEBU EICH GWASANAETH?
Rhowch alwad i ni ar 07736461887 os gwelwch yn dda, byddwn yn falch iawn o glywed gennych i drafod eich anghenion.
Fel arall, gadewch neges, neu yrru e-bost aton ni, trwy ein tudalen gyswllt, a bydd un o'n tîm yn cysylltu â chi cyn gynted ag y bo modd.
BETH YW CERBYD AWYR
DI-GRIW, NEU DRÔN?
Mae Cerbyd Awyr Di-griw, neu Drôn yn fwy cyffredin, yn system lle mae'r 'peilot' yn cael ei gynorthwyo gan y system lywio GPS. Mae hyn yn helpu rheoli'r hedfan, sefydlogi'r awyren ac yn darparu gwybodaeth telemetreg hedfan cywir.
Rydym yn defnyddio system DJI Inspire 1 - system cyflawn mwyaf datblygedig DJI.
Gall yr Inspire 1 hedfan dan do, heb GPS, trwy ddefnyddio ei synhwyrydd lleoli gweledol - sy'n cynnig symlrwydd i hedfan dan do.
Gall camera'r Inspire 1 gael ei arddangos yn fyw ar ddyfais symudol gan roi darlun perffaith o'r hyn y mae'r camera yn gweld.
Mae rheolaeth ar wahân a chyflawn o'r system camera a'r system hedfan yn bosibl.
Gall popeth, o reolaeth camera â'r system telemetreg, a hyd yn oed codi a glanio gael eu rheoli o bell.
FAINT MAE'R GWASANAETH YN EI GOSTIO?
Fel busnes rydym yn ymrwymedig i weithio gyda chi i gynnig ystod eang o wasanaethau sy'n gweddu orau i'ch anghenion; o awyrluniau syml a fideo, cynhyrchiadau fideo llawn hyd at arolygon, archwiliadau, mapio a modelu wedi eu geo-gyfeirnodi'n gywir.
Mae pob prosiect yn cael ei gynllunio yn unigol, a byddem yn hapus i siarad â chi am y ffordd orau i ni ychwanegu gwerth at eich busnes.
BETH YW'R AMODAU AR GYFER HEDFAN?
Os ydych yn ystyried defnyddio Cerbyd Awyr Di-griw ar gyfer unrhyw 'elw masnachol'; sy'n cynnwys defnyddio unrhyw ddeunydd a gafwyd at ddibenion hyrwyddo (gwefannau, cyfryngau cymdeithasol neu gyhoeddiadau ayb) neu fel 'gwerth ychwanegol' at eich gwasanaethau presennol, yn ôl y gyfraith mae angen i chi sicrhau eich bod yn defnyddio gwasanaethau cwmni sydd a chymwysterau addas ac sydd â 'Chaniatâd ar gyfer Gwaith Masnachol' gan yr Awdurdod Hedfan Sifil yn y DU - fel sydd gennyn ni.
Mae hyn yn sicrhau bod yr holl waith yn digwydd yn ddiogel, yn gyfreithlon gyda'r lefel angenrheidiol o yswiriant.
Mae hefyd yn golygu y gallwch ddefnyddio'r deunyddiau a gynhyrchir yn gyfreithlon
Mae yna ychydig o ganllawiau cyffredinol y gallwn ei gynnig, ond os oes gennych unrhyw amheuon, cysylltwch â ni:
-
Rydym yn ei gwneud yn ofynnol cael caniatâd y tirfeddiannwr i hedfan o neu dros unrhyw dir.
-
Ni allwn hedfan yn uniongyrchol dros bobl ac adeiladau nad ydynt o dan reolaeth uniongyrchol y peilot a'r criw ac mae angen pellter o 50 metr o'r gwrthrychau hyn.
-
Mae rhai cyfyngiadau yn berthnasol i ardaloedd penodol o'r wlad ac mae angen caniatad ychwanegol i hedfan. Mae'n bosibl y bydd angen gwneud cais at yr Awdurdod Hedfan Sifil y DU.
Os ydym yn hedfan yn agos i faes awyr, efallai y bydd angen i ni gysylltu â gyfundrefn Rheoli Traffig Awyr i wirio gyda nhw ei bod yn ddiogel i weithredu ar uchder penodol, ar ddyddiad ac amser penodedig.
Weithiau efallai y bydd angen gwneud ymweliad cyn hedfan i leoliad i ganfod os yw'n bosibl. Fel arfer fodd bynnag, bydd cod post neu leoliad lle a beth yr ydym yn ei ffilmio yn ddigon i ni wneud arolwg cyn hedfan ar-lein i weld a oes unrhyw gyfyngiadau y mae angen i ni fod yn ymwybodol ohonynt.
Gan y Peilot mae'r gair olaf bob amser ynghylch amgylchiadau, lleoliadau a diogelwch hedfan yn yr amgylchiadau a lleoliadau hynny.
PA MOR BELL FEDRWCH CHI HEDFAN?
Mae'n rhaid i'r Cerbyd Awyr Di-griw aros o fewn golwg y peilot trwy'r amser - o fewn 500m i'r peilot.
Uchafswm yr uchder gweithredu cyfreithiol yw 120m.
Mewn gwirionedd mae hyn yn rhoi ardal weithio o bron i 1 cilomedr sgwâr o unrhyw bwynt sefydlog i ni.
Gan ei bod yn bosibl i'r peilot symud y 'parth rheolaeth a glanio' yn hawdd ac yn gyflym o amgylch eich safle cyfyngiad damcaniaethol yw hwn yn fwy nag un gwirioneddol.
AM FAINT O AMSER ALLWCH CHI HEDFAN?
Rydyn ni'n defnyddio batris LiPo, sy'n medru cael eu hail-wefru, i bweru ein system.
Mae pob batri yn para tua 15-18 munud.
Dim ond 2 funud mae newid batri'n gymryd. Rydyn ni bob amser yn cario nifer o fatris ar gyfer sesiwn ac yn eu hail-wefru yn ystod y dydd os oes angen.
OES YSWIRIANT GENNYCH CHI?
Yn unol ag Adran 2.4.1 o "CAP 722 Unmanned Aircraft System Operations in UK Airspace", Awdurdod Hedfan Sifil y DU mae'n ofynol i ExCaelo Cyf gael gwerth £5 miliwn o yswiriant atebolrwydd, a ddarperir gan yswiriwr Gweithrediadau Cerbydau Awyr Di-griw arbenigol.
Bydden ni'n hapus i yrru unrhyw ddogfennaeth atoch chi.